YN BRESENNOL: Jenny Rathbone AS (Cadeirydd)
YN BRESENNOL: Sioned Williams AS; Joyce Watson AS; Rhys Hughes – Swyddfa Rhun ap Iorwerth; Alison Scouller – Cymdeithas Iechyd Sosialaidd Cymru; Dr Amy Marshall – Triniaeth Deg i Fenywod Cymru; Andrew McMullan – BPAS; Debbie Shaffer – Triniaeth Deg i Fenywod Cymru; Emma Williams-Tully – Ymgyrchydd; Gail Pettifor-Jones – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Dr Julie Cornish – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Pauline Brelsford – Hawliau Erthylu Caerdydd; Vivienne Rose – BPAS Caerdydd; a Lucy Grieve – BPAS.
YMDDIHEURIADAU: Sarah Murphy AS; Delyth Jewell AS; Llyr Gruffydd AS; Rhun ap Iorwerth AS; John Griffths AS; Dr Jane Dickson – Cyfadran Iechyd Atgenhedlol a Rhywiol; ac Angela Gorman MBE – Hawliau Erthylu Caerdydd.
1. Croeso, Cofnodion, MATERION SY’N CODI
Cofnodion: Nid oedd unrhyw gyfranogwyr yn bresennol yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022. Mae’n rhaid derbyn y Cofnodion hyn yn ffurfiol, felly byddant yn cael eu hychwanegu at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.
2. Anymataliaeth ac effaith anafiadau yn ystod GenedigAETH
Dr Julie Cornish – Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Iechyd y Pelfis ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
· Nododd fod effeithiau cyffredin anafiadau yn ystod genedigaeth yn cynnwys anymataliaeth wrinol, anymataliaeth rhefrol, prolaps organau'r pelfis, camweithrediad rhywiol a phoen yn y pelfis. Hefyd, mae dros 90 y cant o famau sy’n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn dioddef trawma yn y perinëwm. Er bod yr effeithiau hyn yn gyffredin, pwysleisiodd Dr Cornish nad yw hyn yn golygu y dylid eu hystyried yn normal.
· Mae anaf yn ystod genedigaeth yn effeithio ar “weithgareddau dyddiol, llesiant seicolegol, gweithrediad rhywiol ac ansawdd bywyd cyffredinol”, yn ogystal â bod yn ddrud i gleifion (cost o £178 miliwn y flwyddyn) ac i’r GIG (cost o £233 miliwn y flwyddyn).
· Oedi o ran llwybrau triniaeth, yn ogystal â loteri cod post o ran gwasanaethau a rhagfarn feddygol yw’r prif resymau pam fod cymaint o fenywod yn dioddef o ganlyniad i’r effeithiau hyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo yng Nghymru i unioni hyn, ar ffurf Grŵp Gorchwyl a Gorffen a Grŵp Gweithredu Iechyd y Pelfis, yn ogystal â chamau i ddatblygu llwybrau gofal a chanolfannau iechyd mwy effeithlon ac integredig.
· GIG Cymru oedd y cyntaf i gyflwyno teclyn ‘Sacral Neuromodulation’, sy'n galluogi unigolyn i reoli’r broses ysgarthu. Mae gwaith i ehangu mynediad at y dechnoleg hon ar y gweill.
3. Iechyd llawr y pelfis
Laura Price – Ffisiotherapydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
· Nododd nad yw 75 y cant o fenywod yn ceisio gofal am eu hanymataliaeth a bod adroddiadau’n dangos bod hyn yn lleihau ansawdd bywyd menywod yn sylweddol, waeth beth fo difrifoldeb y cyflwr.
· Siaradodd am ganlyniadau camweithrediad llawr y pelfis, gyda dioddefwyr 26 y cant yn fwy tebygol o gwympo a 34 y cant yn fwy tebygol o ddioddef torasgwrn. Hefyd, mae traean o fenywod o’r farn ei fod yn “rhwystr sylweddol rhag ymarfer corff”.
· Nododd fod modd gwneud addasiadau mewn ymateb i’r rhan fwyaf o achosion o anymataliaeth ac y dylid ystyried triniaeth weithredol bron bob amser. Mae opsiynau ar gyfer triniaeth ffisiotherapi yn cynnwys: rhaglen wedi’i theilwra ar gyfer adsefydlu llawr y pelfis, ymyriadau o ran ffordd o fyw ac ymddygiad, dilyn dull bioseicogymdeithasol i reoli poen a symptomau, a bioadborth/ysgogiad niwrogyhyrol trydanol (NMES)/therapi trydanol.
4. Profiad y claf
Dr Amy Marshall – Gwirfoddolwr Arweiniol gyda Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru.
· Siaradodd am y daith drwy wasanaethau'r GIG tra'n dioddef o anymataliaeth. Nid oedd ei phroblemau'n deillio o feichiogrwydd na genedigaeth; cychwynnodd ei thaith pan oedd yn ei harddegau, pan ddywedodd meddyg teulu wrthi fod ei phrofiadau’n normal.
· Soniodd am embaras personol a rhagfarn feddygol fel rhwystrau a oedd yn eu hwynebu wrth iddi chwilio am ymyriad gofal iechyd. Cafodd ei chyfeirio o'r diwedd ag anymataliaeth straen pan oedd yn 30 oed. Bryd hynny, cafodd ei hasesu a dywedwyd wrthi ei bod yn dioddef anymataliaeth wrinol difrifol ac fe argymhellwyd llawdriniaeth iddi. Fodd bynnag, pan ddywedwyd wrth y meddygon nad oedd hi wedi cael unrhyw blant eto, dywedodd y staff hyn wrthi na fyddent yn cynnig llawdriniaeth hyd nes i’w “theulu fod yn gyflawn”. Yna, rhoddwyd meddyginiaeth iddi a weithiodd am beth amser.
· Cafodd ei chyfeirio at ganolfan drydyddol yn Llundain i gael triniaeth pan oedd hi'n 32 oed, lle y cafodd ddiagnosis o gamweithrediad y llwybr gastro-berfeddol gyfan yr oedd yn rhaid ymchwilio iddo. Newidiodd ei bywyd pan gynigiwyd triniaeth integreiddio traws-rhefrol iddi. Rhoddodd hyn y gallu iddi reoli ei choluddyn ei hun.
· Tynnodd sylw at y baich ariannol personol – ni chynigiwyd padiau anymataliaeth iddi gan y GIG, er y bu’n eu defnyddio bob dydd ers degawdau.
· Siaradodd am y graddau y bu’n rhaid iddi fod yn eiriolwr drosti hi ei hun, gan ychwanegu na fyddai byth wedi cael cyfle i gael triniaeth pe na bai'n gwybod am y gwasanaethau a oedd ar gael trwy ei gwaith. Trafododd yr angen am wasanaethau lleol a chamau i roi diwedd ar y loteri cod post o ran gofal yng Nghymru.
5. Trafod y materion a godwyd gan y siaradwyr
I raddau helaeth, canolbwyntiodd y drafodaeth ar sut i ddod â’r loteri cod post o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru i ben, yn ogystal â phwysigrwydd yr hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen ar glinigwyr ar draws y sbectrwm meddygol. Hefyd, codwyd pwyntiau ar yr angen am fwy o ymwybyddiaeth o anymataliaeth ymhlith y cyhoedd, boed yn ddynion neu’n fenywod, o ystyried cyffredinrwydd y cyflwr hwn.
Loteri cod post o ran gwasanaethau:
· Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar y diffyg gwasanaethau y tu allan i Gaerdydd, ond hefyd ar y bwlch o fewn pob rhan o’r GIG pan ddaw i ofal ym maes obstetreg a gynaecoleg a gofal ar gyfer iechyd y colon a'r rhefr. Codwyd pwyntiau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â’r materion hyn drwy greu llwybrau symlach i bontio'r bwlch rhwng y gwasanaethau hyn.
· Trafodwyd y gwelliannau diweddar i ofal menopos ledled Cymru a gofynnwyd a allwn ddefnyddio tactegau tebyg i godi ymwybyddiaeth a sicrhau ein bod yn eiriol dros rywbeth sy'n debygol o effeithio ar bob menyw ar ryw adeg yn ystod ei bywyd.
Yr angen am hyfforddiant ychwanegol:
· Mae gan glinigwyr ledled Cymru y sgiliau angenrheidiol yn barod, ond y cam anodd sy’n rhaid ei gymryd yw datrys sut y gellir rhoi diagnosis i gleifion yn gynt cyn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt. Cafwyd trafodaeth ar bwysigrwydd “un pwynt o gyswllt ar gyfer cyfeirio a llwybr symlach”.
· Mae yna ddryswch ymhlith rhai clinigwyr ynghylch anymataliaeth, gydag un claf yn adrodd y nodwyd mai endometriosis oedd yn gyfrifol am achos difrifol o ollwng wrin. Dywedwyd wrthi nad oedd llawer y gellid ei wneud am hynny.
Codi ymwybyddiaeth o'r mater:
· Codwyd pwynt bod ymwybyddiaeth well o’r materion perthnasol yn Ffrainc, gyda menywod yn cael tri apwyntiad ffisiotherapi ar ôl rhoi genedigaeth.
· Pwysleisiwyd y ffaith nad dim ond rhoi genedigaeth sy’n achosi anymataliaeth, a dylid rhannu'r neges honno'n eang.
· Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith clinigwyr.
6. Unrhyw fater arall
Y cyfarfod nesaf: DYDDIAD I’w gyhoeddi